Creu ● Cynllunio ● Cyfathrebu

Ein gwaith

  • Gwerthuso

  • Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol

  • Rheoli Digwyddiadau

  • Ysgrifennu Copi

  • Ymgyrchoedd Marchnata

  • Codi Arian a Nawdd

  • Creu Cynnwys

  • Cynllunio Strategol

  • Cysylltiadau Cyhoeddus

  • Datblygu

Wedi gweithio gyda ➔

visit-wales.png
GOLWG.png
tafwyl.png
ccc.png
bbc.png
swn.png
s4c.png
  • "Os ydych chi eisiau i brosiect gael ei wneud yn dda, gydag ymrwymiad ac angerdd, yna ewch at Alaw! Maent yn creu ymgyrchoedd cyfredol a ffres sydd gystal ag unrhyw asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cenedlaethol neu Ryngwladol. Merched medrus!"

    Sian Lewis, Urdd

  • "Roedd yn bleser o’r mwyaf cael cyd-weithio gyda chwmni Alaw ar brosiect Gŵyl Cymru Festival. O’r cychwyn cyntaf roedd eu brwdfrydedd a’u proffesiynoldeb yn amlwg wrth ddod â’r weledigaeth yn fyw. Hawdd oedd cyd-weithio oherwydd eu natur fel cwmni a phobl yn llawn egni, syniadau a phersonoliaethau hawddgar. Heb os roedd y digwyddiadau yn llwyddiannus ac mi rydym ni fel CBDC yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda nhw ar brosiectau eraill yn y dyfodol."

    Ian Gwyn Hughes, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

  • “Da ni mor lwcus ein bod wedi dod o hyd i Alaw wrth chwilio am dîm Cyfathrebu dwyieithog, rhagweithiol i helpu arwain y gwaith newydd o fewn yr elusen, ac roedden nhw'n gallu cyflawni hynny'n union. Mae'r tîm yn broffesiynol a chyfeillgar, ac mae ganddyn nhw ddull hyblyg bob amser o'n helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwych, boed hynny drwy gyfryngau cymdeithasol, PR neu drwy weithio’n strategol."

    Aloud

  • “Cynhyrchwyd gwaith rhagorol gan Alaw i godi ymwybyddiaeth o’r brand Prynu’n Lleol ar draws Gwynedd drwy ddefnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Maent wedi gweithredu cynllun marchnata digidol effeithiol, creu cynnwys creadigol newydd drwy ddefnyddio ffilm a graffeg, asedau ar gyfer defnydd busnesau ac wedi ymgysylltu gyda channoedd o fusnesion. Mae’r ymgyrchoedd wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Alaw sydd wedi darparu gwasanaeth proffesiynol dros ben.”

    Steven Jones, Cyngor Gwynedd

  • "Mae cwmni Alaw wedi bod yn rhan greiddiol o ymdrechion Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i godi ein proffil digidol trwy gynnig cynnwys gwreiddiol a bachog am ein treftadaeth gyfoethog ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a hefyd cynnig cymorth a chefnogaeth gyson i ni fel tîm. Mae cwmni Alaw bob tro yn barod i helpu, yn llawn syniadau ac anogaeth ac yn bleser gweithio a hwy. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio yn y dyfodol."

    Hannah Joyce, Llechi Cymru

  • "Mae wedi bod yn braf gweithio ag Alaw – cydweithio hwylus gyda thîm sydd wedi deall y briff yn syth a bob amser yn dod â syniadau newydd i’r bwrdd. Diolch Alaw!"

    Shoned Davies, Cyngor Llyfrau Cymru