Llinos Williams ➔
Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd
Gweithiodd Llinos fel Prif Swyddog Tafwyl, gŵyl gelfyddydol a diwylliannol Caerdydd, am ddeng mlynedd. Erbyn hyn mae’n Gyfarwyddwr Creadigol ar gwmni Alaw yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ar ymgyrchoedd digidol, strategaethau marchnata a chynlluniau rheoli cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sŵn a’r Urdd. Mae hefyd yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynnwys i Croeso Cymru a Visit Wales
Mae hi wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.